P-04-334 Uned Arennol Newydd yn Ysbyty Tywysog Siarl
Geiriad y Ddeiseb
Rydym yn galw ar y Cynulliad Cenedlaethol i annog Llywodraeth Cymru
i adeiladu Uned Arennol newydd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl,
Merthyr Tudful,
Cafodd yr uned bresennol ei hadeiladu ym 1989 i drin 16 claf yr wythnos, ond mae’r nifer hwnnw bellach wedi codi i 52. Gyda nifer y cleifion arennol yn cynyddu’n flynyddol, rydym yn credu ei bod yn bwysig adeiladu uned newydd yn awr er mwyn ymdopi â’r cynnydd hwn. Byddai uned newydd hefyd yn golygu y gellid trin cleifion arennol sydd ond angen mân-driniaethau yn yr uned yn hytrach na’u trosglwyddo i ysbytai eraill sydd angen y gwelyau.
Dyma rai yn unig o’r problemau sydd gennym yn yr uned bresennol:
1. Diffyg ardal ynysu (a allai arwain at groes-heintio)
2. Un toiled yn unig i gleifion gwrywaidd a benywaidd
3. Ardal aros gyfyng
4. Aerdymheru gwael
5. Mae’r uned wedi dioddef llifogydd ar sawl achlysur.
Ysytriwyd y ddeiseb gan y Pwyllgor am y tro cyntaf: Tachwedd 2011
Cynigwyd gan: Robert Kendrick
Nifer y llofnodion: 56